Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
28 Ebrill 2014
CLA393 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd
Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a
Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio)
2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn, a fydd yn dod i rym o 1 Mai 2014, yn
diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
(Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2008 a
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau
Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006. Mae'r
diwygiadau yn darparu, os cyfeirir claf at gontractwr arbenigol am
wasanaethau gorfodol uwch, y bydd yr ad-daliad am unedau o
weithgarwch deintyddol yn cael ei rannu rhwng y deintydd ar y
'stryd fawr' a'r contractwr arbenigol. Nid yw ad-daliadau yn
cael eu rhannu ar hyn o bryd – mae'r deintydd a'r contractwr
arbenigol yn cael ad-daliad am y nifer lawn o unedau o weithgarwch
deintyddol.
CLA394 - Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ("CIPFA") a Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli ("CIMA") yn gyrff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy, ac felly maent o fewn y diffiniad o 'gorff cyfrifyddu' at ddibenion adran 19 (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ("Deddf 2013")
CLA395 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor Rhif 1099/2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd. Yn ogystal, mae'r Rheoliadau hefyd yn dirymu Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995 (O.S. 1995/371) a'r offerynnau diwygio cysylltiedig i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.